This page contains information about examinations and assessments at Ysgol Calon Cymru, including information for candidates and rules around social media use during examination periods. The page also contains information about other tests pupils will complete at Ysgol Calon Cymru, including the The Welsh Government National Numeracy on Screen Tests.

Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am arholiadau ac asesiadau yn Ysgol Calon Cymru, gan gynnwys gwybodaeth i ymgeiswyr a rheolau am ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn ystod cyfnod yr arholiadau. Mae’r dudalen hefyd yn cynnwys gwybodaeth am brofion eraill y bydd y disgyblion yn eu cwblhau yn Ysgol Calon Cymru, yn cynnwys Profion Cenedlaethol Rhifedd ar Sgrin gan Lywodraeth Cymru.


Information for Candidates

The document below has been put together by the Joint Council for Qualifications to help you to understand and prepare for your external examinations. Read it carefully and, if there is anything you are not sure about, check with your subject teacher or form tutor.

Gwybodaeth i Ymgeiswyr

Lluniwyd y ddogfen isod gan y Cyd-gyngor Cymwysterau i’ch helpu i ddeall a’ch paratoi ar gyfer yr arholiadau allanol. Darllenwch e’n ofalus ac os oes unrhyw beth nad ydych yn siŵr amdano, gwiriwch gyda’ch athro pwnc neu diwtor dosbarth.

In order to be able to provide examinations and assessments, the awarding body needs to collect and use information about you. This document lets you know how the awarding body uses this information, and also how long they will keep it for.

Er mwyn darparu ar gyfer arholiadau ac asesiadau, rhaid i’r corff dyfarnu gasglu a defnyddio gwybodaeth amdanoch chi. Mae’r ddogfen hon yn rhoi gwybod i chi sut mae’r corff dyfarnu’n defnyddio’r wybodaeth hyn, a hefyd am ba hyd y byddant yn ei gadw.

We all like to share our experiences when taking exams and sharing ideas with others online can be helpful when you’re studying or revising. However, when it comes to exams there are some things you are not allowed to share on social media. This document has been written to help you stay within the rules during your examination period.

Rydym i gyd yn hoffi rhannau ein profiadau wrth gymryd arholiadau a gall rhannu syniadau gydag eraill ar-lein fod o gymorth pan rydych yn astudio neu’n adolygu. Ond, gydag arholiadau mae yna rai pethau na chewch eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol. Ysgrifennwyd y ddogfen hon i’ch helpu i gadw at y rheolau yn ystod cyfnod yr arholiadau.


Online Personalised Assessments in Reading and Numeracy

Personalised Assessments are undertaken across Wales by students in Key Stages 2 and 3 at two different stages throughout the academic year. Please watch the video for more information.

Asesiadau Personol Ar-lein Mewn Darllen a Rhifedd

Cynhelir Asesiadau Personol ledled Cymru gan fyfyrwyr yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3 ar ddau gyfnod gwahanol yn ystod y flwyddyn academaidd. Gwyliwch y fideo am ragor o wybodaeth.

Completing the Tests

The children need to access their Hwb accounts for these tests, if they have problems with access please let us know.

As a school we will do our utmost to help and support the pupils if you require any further information please contact:

 Builth Campus: jhealey@caloncymru.powys.sch.uk

Llandrindod Campus: Lidavies@caloncymru.powys.sch.uk

Cwblhau'r Profion

Mae angen i'r plant gael mynediad i'w cyfrifon Hwb ar gyfer y profion hyn, os ydyn nhw'n cael problemau gyda mynediad, rhowch wybod i ni. 

Byddwn fel ysgol yn gwneud ein gorau glas i helpu a chefnogi'r disgyblion os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch, cysylltwch â: 

Campws Builth: Jhealey@caloncymru.powys.sch.uk

Campws Llandrindod:  Lidavies@caloncymru.powys.sch.uk

Feedback

We will be sharing the learner feedback of your child's National Tests via your child's Hwb accounts. The download below will guide you on how to access this.

Adborth

Byddwn yn rhannu adborth dysgwyr o Brofion Cenedlaethol eich plentyn trwy gyfrifon Hwb eich plentyn. Bydd y lawrlwythiad isod yn eich tywys ar sut i gael mynediad at hyn.

We encourage you to sit and look through the results with your child. Please feel free to contact the school if you need further guidance, and if you feel you need a paper copy these are available on request.

Rydym yn eich annog i eistedd ac edrych trwy'r canlyniadau gyda'ch plentyn. Mae croeso i chi gysylltu â'r ysgol os oes angen arweiniad pellach arnoch, ac os ydych chi'n teimlo bod angen copi papur arnoch mae'r rhain ar gael ar gais.