MHAW_2021_Website_Header_1306x520px_V2.jpg

Mental Health Awareness Week

Ysgol Calon Cymru is taking part in Mental Health Awareness Week 10th–16th May 2021.

Mae Ysgol Calon Cymru yn cymryd rhan mewn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 10fed –16eg Mai 2021.

What is Mental Health Awareness Week and Why Does It Matter?

Mental Health Awareness Week is an annual event when there is an opportunity for the whole of the UK to focus on achieving good mental health. The Mental Health Foundation started the event 21 years ago. Each year the Foundation continues to set the theme, organise and host the Week. The event has grown to become one of the biggest awareness weeks across the UK and globally.

Mental Health Awareness Week is open to everyone. It is all about starting conversations about mental health and the things in our daily lives that can affect it. This year we want as many people as possible – individuals, communities and governments – to think about connecting with nature and how nature can improve our mental health.

However, the Week is also a chance to talk about any aspect of mental health that people want to – regardless of the theme. 

Beth yw Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl a Pham Mae Hyn yn Bwysig?

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn ddigwyddiad blynyddol sy’n rhoi cyfle i’r DU gyfan ganolbwyntio ar gael iechyd meddwl da. Deuchreuodd Sefydliad Iechyd Meddwl y digwyddiad 21 mlynedd nôl. Bob blwyddyn, mae’r Sefydliad yn dal i osod y thema, yn trefnu a gwesteia’r Wythnos. Mae’r digwyddiad wedi tyfu i fod yn un o’r wythnosau ymwybyddiaeth mwyaf ledled y DU ac yn fyd-eang. 

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn agored i bawb. Mae’n ymwneud â dechrau sgwrs am iechyd meddwl a’r pethau yn ein bywydau beunyddiol sy’n gallu effeithio arno. Eleni, rydym am i gymaint o bobl â phosibl – unigolion, cymunedau a llywodraethau – feddwl am gysylltu â natur a sut y gall natur wella ein iechyd meddwl. 

Ond mae’r Wythnos hefyd yn gyfle i siarad am unrhyw agwedd o iechyd meddwl y mae pobl am beth bynnag y thema. 


What You Can Do During the Week 

The Week is an opportunity for people to talk about all aspects of mental health, with a focus on providing help and advice.

This year we want people to notice nature and try to make a habit of connecting to the nature every day. Stop to listen to the birdsong, smell the freshly cut grass, take care of a house plant, notice any trees, flowers or animals nearby. Take a moment to appreciate these connections.

We also want people to share images/videos/or just sound recordings of the nature on your doorstep (and how this made you feel) on social media using #ConnectWithNature and #MentalHealthAwarenessWeek

Beth Gallwch Chi ei Wneud yn Ystod yr Wythnos

Mae’r Wythnos yn gyfle i bobl siarad am bob agwedd o iechyd meddwl, gan ganolbwyntio ar roi cymorth a chyngor. 

Eleni, rydym am i bobl sylwi ar natur a cheisio mynd i’r arfer o gysylltu â natur bob dydd. Arhoswch i wrando ar gân yr adar, arogli porfa newydd ei dorri, gofalu am blanhigyn y cartref, sylwi ar unrhyw goed, blodau neu anifeiliaid gerllaw. Treuliwch funud yn gwerthfawrogi’r cysylltiadau hyn. 

Hefyd, rydym am i bobl rannu lluniau/fideos/neu recordiadau sain o natur ar garreg eich drws (a sut y gwnaeth hyn i chi deimlo) ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #ConnectWithNature a #MentalHealthAwarenessWeek

 
Photo comp1024_1.jpg

Wellbeing: Parent/Pupil Photography Competition

Let’s celebrate the season, being outside and being able to travel again, by sharing your photographs. We understand that being outdoors and having a creative focus is both nourishing and good for us. With the theme being ‘Nature’, the Wellbeing Team at Ysgol Calon Cymru hope to see some awe-inspiring images, captured by our pupils and their parents on their local walks and travels. Nature Please forward your entries to: wellbeingb5@hwbcymru.net

Wellbeing Activities Booklet

The following downloadable booklet contains some fun Wellbeing Activities for pupils to complete during Mental Health Awareness Week.

0001.jpg

Llesiant: Cystadleuaeth Ffotograffiaeth Rhiant/Disgybl

Gadewch i ni ddathlu’r tymor, bod yn yr awyr agored a medru teithio unwaith eto, trwy rannu eich ffotograffau. Rydym yn sylweddoli mai peth llesol yw bod yn yr awyr agored a chael ffocws greadigol a’i fod yn dda i ni. Gan mai ‘Natur’ yw’r thema, mae’r Tîm Llesiant yn Ysgol Calon Cymru yn gobeithio gweld rhai lluniau syfrdanol, wedi eu tynnu gan ein disgyblion a’u rhieni wrth grwydro ac ar deithiau lleol. Natur Anfonwch eich cynigion at: wellbeingb5@hwbcymru.net

Llyfryn Gweithgareddau Lles

Mae'r llyfryn y gellir ei lawrlwytho isod yn cynnwys rhai Gweithgareddau Lles hwyliog i ddisgyblion eu cwblhau yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl.


Why Was Nature Chosen as the Theme for the Week?

The theme was chosen because being in nature is known to be an effective way of tackling mental health problems and of protecting our wellbeing.

This seemed particularly important this year – in the year of a pandemic. Our own research has shown that being in nature has been one of the most popular ways the public have tried to sustain good mental health at a challenging time.

Our hope is that by growing awareness of the importance of nature to good mental health – we can also work to ensure that everyone can share in it.

Nature is something that is all around us. It can be really helpful in supporting good mental health. Our ambition is to try to make that connection clearer for both individuals and policy makers.

How Do You Define Nature? 

By "nature" we mean any environment in which we can use our senses to experience the natural world. This could include the countryside, a park or garden, coast, lakes and rivers, wilderness, plants or wildlife closer to home. It could also include nature that you can see or interact with in or from your home. 

Pam y dewiswyd Natur fel Thema’r Wythnos?

Dewiswyd y thema am y gwyddir bod natur yn ffordd effeithiol o ymdopi â phroblemau iechyd meddwl a diogelu ein llesiant. 

Mae hyn yn arbennig o bwysig eleni – blwyddyn y pandemig. Mae ein hymmchwil ein hunain wedi dangos mai bod ym myd natur yw un o’r ffyrdd mwyaf poblogaidd y mae’r cyhoedd wedi ceisio cynnal iechyd meddwl da ar adeg heriol. 

Ein gobaith yw y bydd tyfu ymwybyddiaeth am bwysigrwydd natur i iechyd meddwl da yn fodd i ni weithio hefyd i sicrhau y gall pawb ei rannu. 

Mae natur yn rhywbeth sydd o gwmpas pob un ohonom. Gall fod o gymorth mawr i ddiogelu iechyd meddwl da. Ein nod yw ceisio gwneud y cysylltiad hwnnw yn fwy clir i unigolion a gwneuthurwyr polisi. 

Sut Ydych chi’n Diffinio Natur? 

Wrth "natur" rydym yn golygu unrhyw amgylchedd lle gallwn ddefnyddio ein synhwyrau i brofi’r byd naturiol. Gallai hyn gynnwys cefn gwlad, parc neu ardd, yr arfordir, llynnoedd ac afonydd, tir gwyllt, planhigion neu fywyd gwyllt yn agosach at adref. Gallai gynnwys hefyd y  natur a welwch neu’n rhyngweithio â hi neu o’ch cartref. 


Aren’t There Much More Important Mental Health Priorities than Nature at the Moment?

We are not saying that nature is the only priority that is important. And nature is not going to solve all mental health issues. But connecting with nature can play an important part in improving people’s mental health and make us feel better about ourselves.

During lockdown, nature has played a vital part in supporting mental health. According to our own research, last summer half of people in the UK said that being in nature was a favoured way to cope with the stress of the pandemic.

What About People Who Can’t Access Nature?

This will be a key part of the Week. Many people find it hard to access nature because of where they live or because they have no outside space. We will use the Week to launch new policy requests to enable greater access for people to nature. This can include making parks feel safer to use or planting more trees in our streets or asking developers to include plants and green spaces in their designs.

Onid Oes Yna Flaenoriaethau Iechyd Meddwl Pwysicach na Natur ar y Funud?

Dydyn ni ddim yn dweud mai natur yw’r unig flaenoriaeth sy’n bwysig. Ac nid yw natur yn mynd i ddatrys holl faterion iechyd meddwl. Ond gall cysylltu â natur chwarae rhan bwysig i wella iechyd meddwl pobl a gwneud i ni deimlo’n well am ein hunain. 

Yn ystod y cyfnod clo, mae natur wedi chwarae rhan hanfodol i gefnogi iechyd meddwl. Yn ôl ein hymchwil ni, yr haf diwethaf dywedodd hanner o bobl y DU mai bod ym myd natur oedd eu hoff ffordd i ymdopi â straen y pandemig. 

Beth Am Bobl na Allant Gael Mynediad i Natur?

Bydd hyn yn rhan allweddol o’r Wythnos. Mae llawer o bobl yn ei chael yn anodd i gael mynediad i natur oherwydd lle maent yn byw neu am nad oes ganddynt lle yn yr awyr agored. Byddwn yn defnyddio’r Wythnos i lansio ceisiadau polisi newydd er mwyn galluogi mwy o fynediad i bobl i natur. Gall hyn gynnwys gwneud parciau’n fwy diogel i’w defnyddio neu blannu mwy o goed yn ein strydoedd neu ofyn i ddatblygwyr gynnwys planhigion a mannau gwyrdd yn eu dyluniadau.


take_action_header.jpg

Learn More

Find out more about Mental Health Awareness Week, including some top tips on how you can build your own connection with nature, on the Week’s website:

Dysgu Mwy

Ffeindiwch allan mwy am Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, yn cynnwys rhai awgrymiadau da ar sut y gallwch adeiladu eich cysylltiad chi â natur, ar wefan yr Wythnos: